Plaid Cymru i ddod i Abertawe

12/09/2019

Bydd aelodau Plaid Cymru o bob cwr o'r wlad yn dod at ei gilydd ar gyfer eu Cynhadledd Flynyddol ddydd Gwener 4 a dydd Sadwrn 5 Hydref 2019 yn Theatr y Grand, Abertawe.

"A ninnau yng nghanol cyfnod o lanast llwyr yn San Steffan, bydd hon yn un o’r cynadleddau pwysicaf erioed yn hanes ein plaid", meddai'r Dr Dai Lloyd, Aelod Cynulliad y Blaid yn Ne-orllewin Cymru.

"Daw hefyd wrth i filoedd ar filoedd o bobl ar draws Cymru orymdeithio o blaid annibyniaeth - ac yn sylweddoli mai annibyniaeth yw'r ateb rhesymegol i fethiant llywodraeth Llundain".